Cyfansoddiad
Côr Cardi-Gân
1. Enw
Côr Cardi-Gân
2. Amcanion
- Hybu a helpu aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau
corawl cymysg
- Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y côr
- Creu gweithgarwch sy’n
hyrwyddo Cymreictod yng nghefn gwlad Ceredigion a thu hwnt.
- Cefnogi gweithgarwch elusennol
3. Swyddogion a’r Pwyllgor
Mae prif swyddogion y côr
fel a ganlyn:
- Cadeirydd
- Is-gadeirydd
- Ysgrifennydd
- Trysorydd
- Gohebydd Y Wasg
- Llyfrgellydd
- Arweinydd
- Cyfeilydd
Gellir gwahodd
yr Is-Arweinydd a’r Is-Gyfeilyddion i gyfarfod
fel bo’r angen.
Mae swyddi’r uchod yn agored i aelodau’r côr ac
i’w hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Pery pob swydd am gyfnod o flwyddyn a bydd hawl gan bob swyddog gael
ei ail ethol.
4. Blwyddyn y Côr
Bydd blwyddyn y côr
yn cychwyn ym mis Medi.
5. Aelodaeth
5.1 Rhaid talu tâl aelodaeth i fod yn aelod o’r côr.
Y swm i’w benodi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
5.2 Criteria ymaelodi â’r côr yw’r
canlynol:
Rhaid i bob aelod :
- fod yn ddeunaw oed neu’n hyn,
- fwynhau canu, a
- mwynhau cymdeithasu.
6. Ffioedd
Codir tâl i’w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
am berfformiadau. Gellir hepgor tâl mewn achosion arbennig
trwy drafodaeth. 7. Ymarferion
- Bydd y côr yn ymarfer unwaith yr wythnos ar
ddiwrnod a benodir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan ddechrau
am 8.00 o’r
gloch yr hwyr.
- Trefnir ymarferion ychwanegol yn ôl y galw
trwy gytundeb gan gorff y côr.
- Rhaid i aelodau fynychu ymarferion.
8. Grym y Pwyllgor
Fe fydd gan y Pwyllgor y pwerau canlynol:
- I gwrdd yn achlysurol fel bo’r angen i drafod
unrhyw faterion sy’n codi wrth weinyddu’r côr
neu sy’n effeithio
ar y côr mewn unrhyw fodd.
- I apwyntio Is-bwyllgorau i weithredu
o dan oruchwyliaeth y pwyllgor.
- I gyfethol aelodau eraill o’r
côr i fod yn aelodau o’r
Pwyllgor ar gyfer pwrpasau penodol fel bo’r angen.
- I ddelio
ag unrhyw aelod sydd wedi ymddwyn mewn modd nad sy’n
dderbyniol gan gorff y côr.
- I gyfarwyddo ysgrifennydd y
côr i alw Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Arbennig.
- I chwilio ac apwyntio
person addas i swydd Arweinydd y Côr, Is-Arweinydd
a Chyfeilydd lle bo’r angen.
- Rhaid cael 5 swyddog i greu
Cworwm.
- 9. Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol
Mae gan bob aelod o’r côr yr hawl i fynychu’r
Cyfarfod.
- Bydd yn rhaid cynnal y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol cyn diwedd blwyddyn y côr i’r pwrpas o ethol swyddogion
ac aelodau o’r
Pwyllgor.
- Llywyddir y cyfarfod cyfan gan y Cadeirydd.
- Gwahoddir enwebiadau
wedi eu heilio gogyfer â swyddi’r
Pwyllgor i law’r Ysgrifennydd neu aelod arall o’r
Pwyllgor cyn y cyfarfod.
- Derbynnir enwebiadau wedi eu heilio
ar lafar neu’n ysgrifenedig
ar noson y cyfarfod.
9.1 Trefn Ethol
- Gofynnir i’r sawl sydd wedi ei enwebu
/ henwebu i adael yr ystafell.
- Cynhelir pleidlais gudd, hyd yn
oed os mai un enwebiad yn unig a
dderbynnir.
- Bydd gan pob aelod yr hawl i fynychu’r Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol, ond ni fydd ganddo / ganddi’r hawl
i bleidleisio oni bai ei fod / ei bod wedi talu tâl blynyddol
y flwyddyn gyfredol.
- Cyflwynir Adroddiad Ariannol yn y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol.
- Disgwylir i’r cyfrifon gael eu harchwilio
erbyn dechrau’r
mis Medi sy’n dilyn.
10. Galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
10.1 Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig:
- gan y Pwyllgor fel bo’r angen
- gan nid llai na 20% o aelodau’r
côr.
10.2 Rhaid
rhoi rhag rybudd o bedwar diwrnod o leiaf i’r aelodau
o’r bwriad i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.
11. Ni chaniateir i unrhyw
aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu gyfarfod swyddogol na
defnyddio eiddo’r côr oni bai
ei fod / bod wedi talu tâl aelodaeth y flwyddyn gyfredol ac unrhyw
arian arall sy’n ddyledus.
12. Os oes unrhyw aelod yn dymuno gorffen neu bod yn absennol
o’r
côr am gyfnod estynedig, dylid hysbysu’r Ysgrifennydd ar
lafar neu’n ysgrifenedig.
13. Disgwylir i bob aelod
sydd am fod yn absennol o’r côr
am gyfnod estynedig neu sydd am orffen â’r côr ddychwelyd
unrhyw eiddo sy’n berchen i’r côr.
14. Cyngherddau
- Disgwylir cefnogaeth ac ymrwymiad yr aelodau
mewn cyngherddau.
- Dylid cyflwyno ceisiadau am gyngherddau
trwy law’r
Ysgrifennydd.
- Penderfynir drwy bleidlais mwyafrif a dderbynnir
y cyngerdd ai peidio.
- Cyfrifoldeb yr Arweinydd yw trefnu rhaglen.
- Disgwylir i’r
aelodau wisgo gwisg swyddogol y côr mewn
cyngherddau.
15. Materion Cyffredinol
Blwyddyn ariannol y côr
yw 1 Medi - 31 Awst
16. Gohirio neu Ddileu
- Bydd y côr yn parhau o flwyddyn i flwyddyn
oni bai y gelwir Cyfarfod Cyffredinol Arbennig yn ôl y cyfansoddiad
hwn, lle mae cynnig i ddileu neu ohirio’r côr yn cael
ei basio gan 75% o’r aelodaeth. Derbynnir pleidleisiau ysgrifenedig
trwy ddirprwy.
- Os oes asedau yn weddill ar ôl dileu’r
côr a thalu
unrhyw ddyledion, ni ddylid eu dosbarthu ymhlith aelodau’r
côr.
Dylid yn hytrach eu rhoi i sefydliad / au arall / eraill sydd ag
amcanion tebyg neu i elusen / nau a ddewisir gan aelodaeth y côr.
Bydd angen derbynneb gan unrhyw sefydliad / elusen sy’n derbyn
rhodd yn y modd yma.
- Bydd rhaid i unrhyw aelod sy’n dymuno cynnig
newid i’r
rheolau yma wneud hynny yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd o
leiaf fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Arbennig.
- Oni bai fod 75% o aelodaeth y Côr
yn bresennol ac y ceir mwyafrif, ni ellir addasu neu newid y rheolau
yma.
Mai 2003
|