cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

 

cefndir teitl.jpg (6514 bytes)

llun-y-cor bach.jpg (29128 bytes)

Ar nos Fercher, 29ain Medi 1999 daeth criw o ryw ddeugain person ifanc-ish at ei gilydd i Theatr Felinfach heb wybod yn iawn beth i’w ddisgwyl ar gyfer noson gyntaf Côr Cardi-Gân. A dweud y gwir, dod i ymarfer Côr Ieuenctid yng Ngheredigion oedden nhw, gan mai yn hwyrach y daeth enw i’r côr. Sefydlwyd y côr yn ffurfiol yn yr ymarfer cyntaf gan benodi’r swyddogion canlynol:


Gerallt Owen - Cadeirydd
Kevin Jones - Is-gadeirydd
Nia Davies -Ysgrifennydd 
Nerys Evans - Trysorydd
Heledd Williams Cyfeilydd
Rhian Dafydd – Arweinyd

Ar ôl penodi’r pwyllgor roedd yn bryd clywed sut sain oedd gan y criw, gan fod profiad cerddorol ddim yn hanfodol i ymuno â’r côr.

"Reit te" meddai Rhian, "Cymerwch gopi o ‘Bytholwyrdd’ ". Roedd breichiau Rhian yn awyddus i chwifio, a bysedd Heledd yn barod i doncio a lleisiau’r côr yn barod i ganu. Chwarae teg, roedd y sain a grëwyd yn dda iawn, a dyma Rhian a phawb yn gweld dyfodol i’r côr.


Felly, bob nos Fercher yn Theatr Felinfach mae criw Côr Cardi-Gân yn cwrdd am 8.00 o’r gloch yn brydlon.
Gyda tua hanner cant o aelodau ar y gofrestr mae’r Côr yn mynd o nerth i nerth.

Fel soniwyd uchod, nid yw profiad cerddorol yn hanfodol, ond mae’n help. Bwriad sefydlu’r côr oedd darparu rhywbeth gogyfer â phobl ifanc oedd bellach wedi croesi trothwy oedran cystadlu gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd yn bennaf, ond mae’r côr yn croesawu aelodau o ddeunaw oed  i fyny. Mae’n Gôr cymdeithasol ac nid cystadleuol, gyda phwyslais ar y cymdeithasu. Rydym yn trefnu nosweithiau cymdeithasol ar wahân i’r ymarferion, ac wrth gwrs mae elfen o gymdeithasu yn digwydd ar ôl yr ymarferion yn ogystal.   Mae llawer o’r aelodau yn athrawon a ffermwyr, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi bod, neu ynghlwm efo mudiadau fel yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc.