|
| |

|
Adroddiad Lerpwl
|

|
|
Wel
am benwythnos ffantastig!
Cawsom ni, Côr Cardigân, gyfle i gymryd rhan yn nathliadau Gwyl y
Brodyr John Glyn a George M.Ll Davies gyda Chymdeithas Cymry Glanau Mersi o’r
22ain i’r 24ain o Hydref.
|

|
|

|
Yn ogystal
a chael amser i ymweld â’r dociau o le hwyliodd y Mimosa;
y Cavern lle y darganfu’r Beatles; i siopa; i werthfawrogi pensaerniaeth
adeiladau Lerpwl ac i gymdeithasu, cynhaliom gyngerdd a mynychom wasanaeth
Y Gair a’r Gân. |
| Arweiniwyd
ein cyngerdd a gynhaliwyd yn Ysgoldy Bethel yn yr enwog Penny Lane gan
Hywel Lloyd. Mwynhaodd aelodau niferus Cymdeithas Cymry Glanau Mersi
eitemau canu’r côr, o dan arweiniad ein harweinyddes Rhian
Dafydd, yn ogystal â sgets; darlleniad gan Elan; deuawd glocsio
gan Siwan ac Eirith; unawdau a deuawd gan Gerallt ‘Perth’,
Catrin Williams a Ffion Medi (pob lwc iddi yn ei chwrs yn y coleg yn
Lerpwl) ac eitem offerynnol gan Siwan ar y ffliwt, Eirith ar y ffidil
a Heledd ar y piano newydd a gafodd ei brofi i’r eithaf! |
|
|
Ar y bore
Sul, dychwelsom i Penny Lane i fynychu’r gwasanaeth. Cawsom ein
tywys gan Mr John P. Lyons, Mr Humphrey Wyn Jones, y Parchedig Ddr D.
Ben Rees ac aelodau eraill o bwyllgor Cymry Glanau Mersi mewn darlleniadau,
anerchiad a gweddiau, a’n harwain mewn cymanfa fer gan ein harweinyddes
Rhian Dafydd. Darparwyd lluniaeth ar ein cyfer gan wragedd y capel a
diolchodd Rhian Jones ar ein rhan am eu croeso a’u hynawsedd. |
Wedi
penwythnos hwylus, daeth y Parchedig Ddr D. Ben Rees i ffarwelio â ni
yn yr Adelphi gan obeithio ein gweld yn dychwelyd i Lerpwl i gyfrannu
at ddathliadau
Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008. |
 |
 |
 |
 |
|