|
Ar
4 Hydref 2002 bu Côr Cardi-Gân ar daith gymdeithasol i Gaerdydd.
Pwrpas y daith oedd rhoi perfformiad yn Amgueddfa Cymru, Sain
Ffagan, ac roedd hefyd yn gyfle i aelodau newydd ddod
i adnabod aelodau eraill y côr ac yn esgus da i gael ychydig
o hwyl!!
Roeddem
yn aros yng Ngwesty Jury’s ac ar ôl cyrraedd y gwesty, aethom
i weld rhai o brif atyniadau’r ddinas, na, nid yr Amgueddfeydd
ond y Clybiau Nos! Cafodd
bawb noson wych, yn enwedig Anwen Davies a syfrdanodd pawb (h.y.
pawb yn y clwb!!) gyda’i dehongliad diddorol ag
egniol o’r gân ‘Kiss’ gan Holly Vallance! Campus Anwen!
Dydd
Sadwrn, roedd hi’n ras wyllt rownd y siopau cyn i bawb gyfarfod
yn ‘Yr Ŵyl Gwrw Genedlaethol’ a gynhaliwyd yn neuadd y ddinas!
Yn dilyn hyn aeth rhai o aelodau dewraf y côr i sglefrio. (Er
fod gen ti dalent naturiol yn y maes yma Catrin -mae gen ti dipyn
o waith eto cyn cyrraedd safon Jane Torville !!)
Nos
Sadwrn aeth y côr am bryd o fwyd i fwyty a thafarn ‘Y Mochyn
Du’ yng Ngerddi Soffia. Roedd y bwyd yn fendigedig a’r adloniant
yn well byth!! Dechreuodd y côr ganu ychydig o ganeuon ysgafn,
ac roedd Rhian Dafydd yn amlwg wedi ei phlesio yn
fawr gyda safon gwych y canu cyn iddi ddod yn amlwg iddi fod
dau gôr arall yn y dafarn- Cordydd a Chôr Godre’r Garth!! Erbyn
diwedd y noson roedd pawb wedi ymuno yn y canu, a phawb wedi
cael noson i’w chofio!
Ar
ddydd Sul, 5 Hydref aethom i Sain Ffagan i
berfformio rhai o’n caneuon yn Neuadd Oakdale. Cynhaliwyd dau
berfformiad, un am 1.00 o’r gloch a’r naill a, 3.00. Roedd y
ddau berfformiad yn wahanol yn cynnwys eitemau lleisiol unigol
ac offerynnol ynghyd ag eitem glocsio ddigri gan Eirith a Siwan!
Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn ac roedd hi’n bleser
cael cynnal perfformiad mewn awyrgylch mor ddymunol.
Bu’r
daith yn gyfle gwych i gymdeithasu, i gyfarfod a rhai o aelodau
newydd y côr ac i wneud cysylltiadau newydd – gan i ni drafod
y posibiliadau o gymryd rhan mewn cyngerdd gyda Chordydd yn y
dyfodol. Wrth i ni adael y ddinas fawr, cytunodd pawb eu bod
wedi cael penwythnos a hanner a bod rhaid cael taith arall yn
reit fuan!!
Gwenllian
Jones
Gohebydd
Y Wasg
|