|

Datganiad Cyfle Cyfartal
Yr Angen
‘
Mae rhai unigolion yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu. Mae gan fudiadau
gwirfoddol gyfrifoldeb i wrthwynebu gwahaniaethu ar sail anabledd nid yn
unig i sicrhau fod y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn agored i bawb,
ond yn ogystal am ei fod yn ran annatod o rôl y sector wirfoddol
i dynnu sylw at anghyfiawnder ac i ddangos arfer dda.’
‘Voluntary not amateur’ Duncan Forbes, Ruth Hayes& Jacki
Reason, London Voluntary Service Council 1988
Y mae Côr Cardi-Gân yn dymuno diwallu
hyn yn y ffyrdd canlynol:
Datganiad o Fwriad
Fe fydd hwn yn ffurfio sylfaen Côr Cardi-Gân ar Gyfleoedd Cyfartal,
a bydd yn llinyn mesur i weld a ydym yn llwyddo wrth weithredu ein polisi.
Gweithrediad
Er mwyn gweithredu y polisi Cyfle Cyfartal fe fydd Côr Cardi-Gân
yn cymryd camau positif er mwyn gweithio at arfer dda ymhlith aelodau a
swyddogion y côr. Mae Côr Cardi-Gân yn ymrwymo i gynnig
profiadau cymunedol gan gynnwys y cyfle i wneud dewisiadau fel unigolion
a dysgu sgiliau newydd.
Monitro
I fesur a ydym yn llwyddo i weithredu’r polisi bydd Côr Cardi-Gân
yn cynnal adolygiadau a monitro arferion yn unol â’r targedau
a amlygwyd yn y Datganiad o Fwriad a’r gweithrediad fel y’i
amlygir yn y datganiad polisi.
Datganiad o Fwriad
Mae Côr Cardi-Gân yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal
yn ei wasanaeth i’r gymuned. Bwriad ein polisi yw sicrhau na fydd
aelod neu swyddog o’r côr yn cael triniaeth llai ffafriol ar
sail rhyw, cenedl, lliw croen, crefydd, dosbarth, statws priodasol,dewis
rhywiol.
Gweithredu a Monitro
Mae Côr Cardi-Gân yn cydnabod bydd monitro cyson yn arwain
at addasu a gwirio targedau ac amcanion o fewn ein polisi Cyfle Cyfartal.
Yn ogystal â monitro mae Côr Cardi-Gân hefyd yn cydnabod
fod cyflawni ein polisi yn golygu:
• Cydnabyddiaeth fod rhai pobl yn wynebu
rhagfarn, gwahaniaethu a thrafferthion ar sail yr hyn a nodwyd yn y Datganiad
o Fwriad.
• Darpariaeth addas o drefn gwyno i aelodau a swyddogion.
•
Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn pan yn dymuno ymaelodi,
neu bod yn un o swyddogion y côrar wahân i’r rheol fod
yn rhaid bod dros 18, ac yn medru’r Gymraeg neu yn dangos diddordeb
mewn dysgu’r Gymraeg.
1 |