cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

 

Cyfansoddiad Côr Cardi-Gân


1. Enw

Côr Cardi-Gân

2. Amcanion

  • Hybu a helpu aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl cymysg
  • Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y côr
  • Creu gweithgarwch sy’n hyrwyddo Cymreictod yng nghefn gwlad Ceredigion a thu hwnt.
  • Cefnogi gweithgarwch elusennol

3. Swyddogion a’r Pwyllgor

Mae prif swyddogion y côr fel a ganlyn:

  • Cadeirydd
  • Is-gadeirydd
  • Ysgrifennydd
  • Trysorydd
  • Gohebydd Y Wasg
  • Llyfrgellydd
  • Arweinydd
  • Cyfeilydd

Gellir gwahodd yr Is-Arweinydd a’r Is-Gyfeilyddion i gyfarfod fel bo’r angen.

Mae swyddi’r uchod yn agored i aelodau’r côr ac i’w hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Pery pob swydd am gyfnod o flwyddyn a bydd hawl gan bob swyddog gael ei ail ethol.

4. Blwyddyn y Côr

Bydd blwyddyn y côr yn cychwyn ym mis Medi.

5. Aelodaeth

5.1 Rhaid talu tâl aelodaeth i fod yn aelod o’r côr. Y swm i’w benodi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

5.2 Criteria ymaelodi â’r côr yw’r canlynol:

Rhaid i bob aelod :

  • fod yn ddeunaw oed neu’n hyn,
  • fwynhau canu, a
  • mwynhau cymdeithasu.

6. Ffioedd

Codir tâl i’w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am berfformiadau. Gellir hepgor tâl mewn achosion arbennig trwy drafodaeth.

7. Ymarferion

  • Bydd y côr yn ymarfer unwaith yr wythnos ar ddiwrnod a benodir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan ddechrau am 8.00 o’r gloch yr hwyr.
  • Trefnir ymarferion ychwanegol yn ôl y galw trwy gytundeb gan gorff y côr.
  • Rhaid i aelodau fynychu ymarferion.

8. Grym y Pwyllgor

Fe fydd gan y Pwyllgor y pwerau canlynol:

  • I gwrdd yn achlysurol fel bo’r angen i drafod unrhyw faterion sy’n codi wrth weinyddu’r côr neu sy’n effeithio ar y côr mewn unrhyw fodd.
  • I apwyntio Is-bwyllgorau i weithredu o dan oruchwyliaeth y pwyllgor.
  • I gyfethol aelodau eraill o’r côr i fod yn aelodau o’r Pwyllgor ar gyfer pwrpasau penodol fel bo’r angen.
  • I ddelio ag unrhyw aelod sydd wedi ymddwyn mewn modd nad sy’n dderbyniol gan gorff y côr.
  • I gyfarwyddo ysgrifennydd y côr i alw Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Arbennig.
  • I chwilio ac apwyntio person addas i swydd Arweinydd y Côr, Is-Arweinydd a Chyfeilydd lle bo’r angen.
  • Rhaid cael 5 swyddog i greu Cworwm.
  • 9. Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol

    Mae gan bob aelod o’r côr yr hawl i fynychu’r Cyfarfod.
  • Bydd yn rhaid cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyn diwedd blwyddyn y côr i’r pwrpas o ethol swyddogion ac aelodau o’r Pwyllgor.
  • Llywyddir y cyfarfod cyfan gan y Cadeirydd.
  • Gwahoddir enwebiadau wedi eu heilio gogyfer â swyddi’r Pwyllgor i law’r Ysgrifennydd neu aelod arall o’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.
  • Derbynnir enwebiadau wedi eu heilio ar lafar neu’n ysgrifenedig ar noson y cyfarfod.

9.1 Trefn Ethol

  • Gofynnir i’r sawl sydd wedi ei enwebu / henwebu i adael yr ystafell.
  • Cynhelir pleidlais gudd, hyd yn oed os mai un enwebiad yn unig a
    dderbynnir.
  • Bydd gan pob aelod yr hawl i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ond ni fydd ganddo / ganddi’r hawl i bleidleisio oni bai ei fod / ei bod wedi talu tâl blynyddol y flwyddyn gyfredol.
  • Cyflwynir Adroddiad Ariannol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  • Disgwylir i’r cyfrifon gael eu harchwilio erbyn dechrau’r mis Medi sy’n dilyn.


10. Galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

10.1 Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig:

  • gan y Pwyllgor fel bo’r angen
  • gan nid llai na 20% o aelodau’r côr.

10.2 Rhaid rhoi rhag rybudd o bedwar diwrnod o leiaf i’r aelodau o’r bwriad i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

11. Ni chaniateir i unrhyw aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu gyfarfod swyddogol na defnyddio eiddo’r côr oni bai ei fod / bod wedi talu tâl aelodaeth y flwyddyn gyfredol ac unrhyw arian arall sy’n ddyledus.

12. Os oes unrhyw aelod yn dymuno gorffen neu bod yn absennol o’r côr am gyfnod estynedig, dylid hysbysu’r Ysgrifennydd ar lafar neu’n ysgrifenedig.

13. Disgwylir i bob aelod sydd am fod yn absennol o’r côr am gyfnod estynedig neu sydd am orffen â’r côr ddychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r côr.

14. Cyngherddau

  • Disgwylir cefnogaeth ac ymrwymiad yr aelodau mewn cyngherddau.
  • Dylid cyflwyno ceisiadau am gyngherddau trwy law’r Ysgrifennydd.
  • Penderfynir drwy bleidlais mwyafrif a dderbynnir y cyngerdd ai peidio.
  • Cyfrifoldeb yr Arweinydd yw trefnu rhaglen.
  • Disgwylir i’r aelodau wisgo gwisg swyddogol y côr mewn cyngherddau.

15. Materion Cyffredinol

Blwyddyn ariannol y côr yw 1 Medi - 31 Awst

16. Gohirio neu Ddileu

  • Bydd y côr yn parhau o flwyddyn i flwyddyn oni bai y gelwir Cyfarfod Cyffredinol Arbennig yn ôl y cyfansoddiad hwn, lle mae cynnig i ddileu neu ohirio’r côr yn cael ei basio gan 75% o’r aelodaeth. Derbynnir pleidleisiau ysgrifenedig trwy ddirprwy.
  • Os oes asedau yn weddill ar ôl dileu’r côr a thalu unrhyw ddyledion, ni ddylid eu dosbarthu ymhlith aelodau’r côr. Dylid yn hytrach eu rhoi i sefydliad / au arall / eraill sydd ag amcanion tebyg neu i elusen / nau a ddewisir gan aelodaeth y côr. Bydd angen derbynneb gan unrhyw sefydliad / elusen sy’n derbyn rhodd yn y modd yma.
  • Bydd rhaid i unrhyw aelod sy’n dymuno cynnig newid i’r rheolau yma wneud hynny yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd o leiaf fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Arbennig.
  • Oni bai fod 75% o aelodaeth y Côr yn bresennol ac y ceir mwyafrif, ni ellir addasu neu newid y rheolau yma.


Mai 2003