|
|
POLISI AMDDIFFYN PLANT Mae aelodau Côr Cardi Gân yn cydnabod mai plant yw aelodau mwyaf di-amddiffyn yn ein cymdeithas. Nid oes ganddynt hawl i bleidleisio na llwybrau eraill at bwer. Felly y mae gan oedolion mewn awdurdod gyfrifoldeb i sicrhau fod hawliau plant a bobl ifanc yn cael eu cynrychioli a’u hamddiffyn. Er bod aelodaeth y Côr yn datgan na ellir bod yn aelod o’r
Côr o dan 18 mlwydd oed mae’r polisi hwn yn cydnabod ac yn
adlewyrchu: Mae Côr Cardi-Gân am sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn plant rhag unrhyw fath o niwed mewn unrhyw sefyllfa ble y down i gysylltiad â phlant. Rydym yn derbyn fod dyletswydd ar bawb sy’n ymhel â ni, yn aelodau neu yn aelodau cymdeithasol i atal unrhyw gamdriniaeth o blant a bydd y polisi hwn yn hysbys i bawb o fewn y côr. Byddwn yn sicrhau ein bod wedi ystyried gofynion iechyd a diogelwch pob sefyllfa rydym yn gyfrifol amdani. Byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw aelod o’r côr-tra eu bod yn ymgymryd â gweithgaredd o dan adain y côr – yn cael bod gyda un plentyn ar eu pen eu hunain. Cynghorir aelodau i sicrhau eu bod bob amser o fewn golwg rhywrai eraill ac nad ydynt i dreulio amser gydag un plentyn ar eu pen eu hunain. Pe buaswn yn gweithio gyda phlant ar ryw adeg yn y dyfodol baswn yn sicrhau fod mwy nag un oedolyn yn bresennol bob amser. Pe buaswn yn chwilio am bobl allanol i’n helpu gyda phrosiect neu yn penodi gwirfoddolwyr neu staff i weithio gyda phlant, byddwn yn cymryd y camau canlynol i’w gwirio:
Os oes gennym unrhyw amheuaeth fod un o’r plant yr ydym mewn cysylltiad â hwy
yn dioddef camdriniaeth o unrhyw fath yn unrhywle, bydd Aelod o’r
Pwyllgor yn cysylltu yn syth â: |