cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

 

 

Eleni gwnaeth y cor gymeryd rhan yng ngweithgareddau diwrnod y Cobiau Cymreig ar ddydd Sul,y degfed o Awst yng nghae Sgwar Aberaeron . Cawsom ddiwrnod bendigedig yng nghanol y ceffylau,gyda Eirith a Siwan yn clocsio ar lwyfan yng nghanol y cae . Roedd y clocsio’n adleisio swn trotian y ceffylau a bwrlwm y niferoedd o ymwelwyr a ddaeth i fwynhau’r diwrnod.Yn dilyn y canu daeth rhyw syched mawr , a gwnaeth nifer o aelodau’r cor gymeryd y cyfle i gymdeithasu gyda rhai o gymeriadau ‘r sioe .Diwrnod yn wir iw gofio !!
Blwyddyn newydd y Cor

Ail gychwynnodd flwyddyn y cor ar Nos Fercher y 3 ydd o Fedi .Daeth nifer o aelodau hen a newydd ynghyd . Swyddogion y cor a gafodd eu hethol yng nghyfarfod blynyddol y cor nol ym mis Mehefin yw y canlynol :-

Arweinydd - Rhian Dafydd .
Cyfeilydd - Heledd Williams .
Is Gyfeilyddion - Siwan , Eirith , Hilary.
Ysgrifennydd - Hywel Lloyd.
Cadeiryddes- Elan Dafis .
Is-Gadeirydd - Dewi Jones .
Trysorydd - Catrin Williams.
Gohebydd Y Wasg - Neris Davies .
Llyfergellydd - Sian Thomas .
Cyngherddau

Medi - 26ain- Roedd y cor wedi cael gwahoddiad i ganu yng Ngwesty’r Grannell gan Ysgol Gynradd LLanwnnen. Cawsom noson hwylus yng nghwmni croesawgar y gynulleidfa .Perfformiwyd nifer o eitemau amrywiol,gyda Hywel ac Elan yn arwain y noson mor brofiadol .Cafwyd unawdau gan Carys , Catrin a Gerallt;darlleniad gan Elan; dawns stepio gan Eirith a chan actol gan fois y cor hefyd.

Yr uchafbwynt i ni fel cor oedd cael y pleser o drosglwyddo siec o bum Cant o
bunnoedd i Mr. Alun Davies a ddaeth i’w derbyn ar ran Ambiwlans Awyr .

Nod y cor bob blwyddyn yw dewis elusen , ac yna mynd o amgylch tafarnau Ceredigion adeg y Nadolig yn Canu Carolau i godi arian .Eleni , yr elusen a ddewiswyd yw D.A.S.H.

Hydref 11 fed - Trefnwyd bws i gludo’r cor am noswaith o ganu yng nghwesty y Talbot Tregaron . Roedd y noson yn cynwys eitemau gan Fand y Ddafad Gorniog , Dom Duff o Lydaw a Saioa Etseberria o wlad Basg.Cawsom noson hwylus yn rhannu traddodiadau celtaidd gyda Elen Evans Ward o Drawscoed yn arwain y noson.Cyn troi am adre gwelsom ddawn nifer o aelodau’r cor yn dawnsio gwerin .