cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

 

ar_daith_teitl.jpg (6485 bytes)

logo-feile-na-bealtaine.gif (3598 bytes)

Taith Côr Cardi-Gân i'r Wyl Ban Geltaidd yn Tralee

Ar ddiwedd mis Ebrill 2000 bu Côr Cardi-Gân, sef Côr Ieuenctid Cymysg o Ganolbarth Ceredigion yn ymweld â’r Wyl Ban Geltaidd yn Nhralee. Dyma oedd eu taith swyddogol gyntaf!

hybyseb pan celtic night.jpg (37298 bytes)

Er bod dros 50 o aelodau yn y Côr, 21 o’r aelodau a fu ar y daith yn ogystal â rhyw hanner dwsin o gefnogwyr brwd.

Roedd y daith yn gofyn am dipyn o ymrwymiad
gan yr aelodau gan fod nifer o berfformiadau gennym yn ogystal â chystadlu, ond cafwyd penwythnos penigamp a llwyddiannus dros ben.

Cychwynnodd y daith ar fore Dydd Gwener, 28 Ebrill gyda bws Alwyn Evans Tregaron yn codi mwyafrif yr aelodau tu allan i Dafarn Dyffryn Aeron. (Noddwyd crysau polo’r Côr gan Roland a Daphne Evans, perchnogion Tafarn Dyffryn Aeron gyda llaw).

Rhaid oedd teithio i Ddoc Penfro er mwyn croesi i Rosslare a dyna ddechrau ar yr hwyl. Roeddem yn rhannu llong gyda chriw gwyllt o fechgyn wedi gwisgo fel menywod am y rheswm syml eu bod at barti ‘stag’. Pawb at y peth y bo yntê. Gallech feddwl mai tua 7.00 o’r gloch y nos oedd hi yn hytrach nac oriau mân y bore gyda’r ddiod yn llifo a`r canu’n atsain o gornel i gornel. Roedd pethau’n argoeli’n dda iawn wir!

Wedi cyrraedd Rosslare roedd gennym tua 6 awr o daith i gyrraedd Tralee gyda ‘detour’ i’r ffatri chwisgi Jameson yn Middleton ar y ffordd.

Roedd y daith o gwmpas yr hen ‘distillery’ yn ddiddorol iawn, ond yr uchafbwynt wrth gwrs oedd cael blasu joch fach ar y diwedd. Roedd rhai yn ei werthfawrogi ac eraill yn ei gasàu.

Cyrhaeddwyd Tralee a gwesty moethus y Brandon Court, ond roedd gennym lai nac awr i newid ac ymbincio cyn ein ymddangosiad cyntaf mewn theatr gyferbyn â’r gwesty. Noson anffurfiol oedd hon gyda nifer o artisitiad o Gymru yn perfformio eitemau amrywiol. Hoffwn fan hyn ddiolch i Gwen Jenkins, ein technegydd swyddogol ar daith am wasgu’r botymau priodol. Roedd hi’n arbenigwraig erbyn Dydd Sul!!

Wedi’r perfformio, nôl â ni i’r gwesty i newid allan o’r crysau swyddogol ac i feddwl am setlo’r stumog.

Aethom fesul grwpiau i chwilio am lefydd addas oedd yn gweini Guinness, bwyd a cherddoriaeth. Wel roedd un peth yn sicr, sef bod digon o ddewis.

Wedi swpera aethom i chwilio am ychydig o adloniant a doedd dim rhaid mynd yn bell. Roedd band byw yn chwarae mewn tafarn arall ychydig ddrysau i lawr o lle’r oeddem wedi cael bwyd ac roedd y caneuon poblogaidd ac adnabyddus yn ein galw i’r llawr disgo. Buom yn ‘boppan’ a ‘bwgïo’ nes i’r band orffen, yna aethom yn ôl am y gwesty. Bu bron i Siân ddod a’r ‘Wheelie bin’ yn ôl gyda hi fel cymar!!

Roedd hi’n orlawn ym mar y gwesty a mwy o Gymru yno na neb arall. Roedd hi’n llawer rhy gynnar i feddwl am fynd i’r gwely ac roedd cystadleuaeth yfory ymhell, bell i ffwrdd!!

Gwawriodd Dydd Sadwrn, 29 Ebrill yn ddiwrnod braf yn Nhralee a’r mwyafrif o aelodau’r Côr yn gwneud ymddangosiad amser brecwast.

Rhaid oedd trefnu ymarfer gan fod y lleisiau yn gras a rhydlyd iawn, ond ar ôl pregeth neu ddwy fe wellodd pethau.

Cawsom hwyl (yn fy marn i) gyda’r perfformiad yn y gystadleuaeth i gorau gwledig. Rhaid oedd canu dwy gân mewn iaith Geltaidd o ddewis y Côr ac fe ganwyd trefniant digyfeiliant o Ar Hyd Y Nos gan Harry Evans a Moliannwn gan Janice Rees i gloi’r perfformiad.

Cawsom ymateb brwdfrydig iawn a llwyddwyd i ennill cwpan am y gân orau gan y newydd-ddyfodwyr gorau yn yr Wyl ynghyd â 150 o bunts Gwyddelig i goffrau’r Côr.

Wedi’r gystadleuaeth rhaid oedd meddwl am swper cyn symud ymlaen i’r Dingle, lle roeddem yn perfformio mewn cyngerdd gyda Dafydd Iwan, Liz Doherty a’i band o’r Alban a Dawnswyr o ardal Llanrwst.

Dywedodd Dafydd Iwan fod ganddo un uchelgais ar ôl, sef i ganu yn yr Iwerddon i Wyddelod oherwydd unwaith eto roedd llond y lle o Gymry yng Ngwesty’r Smerwick Bay.

Yn ôl y disgwyl, cafwyd noson wych a dawnsio gwyllt. Dwi ddim yn amau bod rhai o aelodau’r Côr yn medru dawnsio ‘Riverdance’ yn well na Michael Flatley ei hunan!!!

Erbyn diwedd y noson, roeddwn wedi penderfynu nad oedd pwynt pregethu am gadw’r lleisiau a’r angen i gadw ychydig ohono erbyn y bore canlynol. Beth yw’r pwynt mynd i gwrdd â gofid a phawb yn cael gymaint o hwyl.

Gan fod Gwyl Y Pasg mor hwyr eleni, roedd dwy Wyl yn rhedeg i mewn i’w gilydd yn Iwerddon, sef Yr Wyl Ban Geltaidd a Gwyl Calan Mai yn y Dingle.

Yn rhan o’r dathliadau hyn, roeddem wedi derbyn gwahoddiad i ganu mewn Offeren ar fore Dydd Sul ac eto mewn Cyngerdd Mawreddog mewn eglwys arall yn y dref yn y prynhawn.

Cafwyd profiad arbennig yn yr Offeren fore Sul er bod mwyafrif y gwasanaeth yn yr Wyddeleg. Roedd awyrgylch hyfryd yno a phawb yn cymeryd y gwasanaeth o ddifrif.

Roedd yr eglwys lle roeddem yn perfformio ynddo yn y prynhawn yn anferthol, ond yn hardd eithriadol. Ni oedd yn gyfrifol am ail hanner y cyngerdd a hwn hefyd oedd ein perfformiad olaf ar ein penwythnos prysur.

Aerh popeth yn hwylus dros ben ac ar ôl y gyngerdd roedd cyfle unwaith eto i bawb ymlacio a mwynhau yng nghwmni'n gilydd.

Roedd Gwen wedi llwyddo i ddarganfod tafarn oedd yn fodlon bwydo’r cyfan ohonom y noson honno, fel ein bod yn gallu cymdeithasu yn un grwp mawr, swnllyd!!

Diolch i’r ‘dynamic duo’, sef Anwen a Brei am y seremoni wobrwyo fythgofiadwy ac i bob un am eu cyfraniad unigryw a sicrhàodd fod ein taith yn llwyddiannus a’r penwythnos yn un i’w gofio!

Rhian Dafydd

 

Arweinydd Y Côr