|
Taith
Côr Cardi-Gân i Lundain
Ar
ddechrau mis Hydref 2001, bu Côr Cardi-Gân a rhai aelodau o Aelwyd
Bro Ceredigion (ABC) ar ymweliad â Llundain. Gwahoddwyd y Côr
rai misoedd yn ôl bellach i gynnal cyngerdd yng Nghanolfan Cymry
Llundain yn Gray’s Inn Road, ac wrth gwrs, roedd hi’n amhosib
gwrthod y fath gynnig. Daeth rhai o griw ABC gyda ni ar y daith
i’n cynorthwyo gyda rhai o’r eitemau adloniadol.
Cychwynnwyd
ar y daith ar brynhawn Gwener, 5 Hydref 2001 am 4.00 o’r gloch
y prynhawn ac roeddem wedi llogi bws gan gwmni G & M yn Llambed
ac Emrys oedd wrth y llyw.
Ar ôl
teithio am tua 3 awr a hanner fe arhosom am damaid o swper mewn
un o’r safleoedd gwasanaethau ar yr M4, yna ymlaen â ni a chyrraedd
Gwesty’r Thistle King’s Cross yn Llundain, tua 11.30 o’r gloch.
Wedi
cofrestru a mynd â’r bagiau i’r ystafelloedd, rhaid oedd dod
lawr i’r parlwr ac ardal y bar i ymlacio, gallech feddwl ei
bod yn gynnar y nos, roedd y penwythnos hir-ddisgwyliedig wedi
cyrraedd o’r diwedd. Dechreuodd
rhai glwydo tua un o’r gloch, ond daeth i’r amlwg fore trannoeth
ei bod hi’n 4.30 y bore ar y diwethaf yn clwydo!! Pwy tybed!
Roedd
Dydd Sadwrn yn rhydd i bawb wneud fel ag y mynnent. Aeth rhai
yn gynnar iawn i ymweld â’r ‘London Eye’, profiad gwych mae’n
debyg, eraill i grwydro rhai o strydoedd Llundain yn amser eu
hunain
Roedd
pawb yn cwrdd yn Theatr Victoria Apollo erbyn 2.30 y prynhawn
gan ein bod wedi archebu tocynnau i weld y sioe gerdd “Starlight
Express”. Roedd hi’n amlwg fod y sioe o flaen ei hamser pan agorodd
hi’n gyntaf, yn sôn am y gwahanol fathau o drenau sydd i’w cael.
Roedd yr actorion yn cyfleu hyn oll drwy berfformio’r sioe ar ‘Roller
Blades’. Mae’r sioe yn gorffen ym mis Ionawr 2002 ar ôl rhedeg
am 17 mlynedd, felly rhaid dweud ein bod yn falch i ni gael y
cyfle i’w gweld cyn iddi ddod i ben.
Wedi
hyn, nôl â ni i’r gwesty i newid i ddillad y Côr yn gyflym, yna
lan i Ganolfan Cymry Llundain. Roedd y cyngerdd yn cychwyn am
7.30 o’r gloch ac roedd angen cynhesu’r lleisiau ac ati.
Cafwyd
cyngerdd ardderchog a’r gynulleidfa yn gwerthfawrogi'r amrywiol
ddoniau oedd ar gael ar y noson. Cafwyd unawdau gan Gareth John
a Rhian Dafydd, sgets dan ofal criw ABC, parti bechgyn ac arwain
digri a ffraeth gan Arwel Davies ac Elan Dafis ac wrth gwrs amryw
o berfformiadau gan y Côr. Diolch i bawb am sicrhau bod y cyngerdd
yn gymaint o lwyddiant.
Cafwyd
croeso twymgalon yno, a noson dda iawn, ac ar ôl y cyngerdd cafwyd
cyfle i gymdeithasu â’r gynulleidfa. Roedd
nifer o aelodau’r côr yn gwybod bod ei perthnasau yno, a rhai
aelodau yn cwrdd ag aelodau o’r teulu nas gwelwyd o’r blaen. Yn
y lolfa cawsom ddigon i’w fwyta a chyfle i wlychu pig ar ôl y
cyngerdd. Roedd
yn fore Sul arnom yn dweud ffarwel â’n cyfeillion newydd, ar ôl
cyfnewid nifer o storïau a hanesion, yna rhaid oedd cerdded nôl
i’r gwesty.
Ar ôl
brecwast Dydd Sul, rhaid oedd pacio’r cês a’i roi ar y bws, yna
roedd pawb yn rhydd tan 3.00 o’r gloch.
Ar
y ffordd nôl i Gymru arhosom am fwyd yn y Wentwood Inn ger Casnewydd. Cawsom
bryd o fwyd blasus iawn a gyda phawb â’i fola yn llawn cysgodd
y mwyafrif o hynny ymlaen. Aeth yn hanner
nos cyn inni gyrraedd nôl i Aberaeron, a rhaid dweud fod yr hen
ddywediad yn ddigon gwir – ‘does unman yn debyg i gartref’.
Roedd
y daith wedi bod yn flinedig, ond yn un fythgofiadwy hefyd am
nifer o resymau. Diolch
yn fawr iawn i’r aelodau hynny a dreuliodd oriau lawer yn cael
y manylion i gyd i fwcwl a gobeithio hefyd y cawn wahoddiad yn ôl
yn fuan i Ganolfan Cymry Llundain.
Gordon
Harries
Gohebydd
y Wasg
|