cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

ar_daith_teitl.jpg (6485 bytes)

Adroddiad Lerpwl

Wel am benwythnos ffantastig!


Cawsom ni, Côr Cardigân, gyfle i gymryd rhan yn nathliadau Gwyl y Brodyr John Glyn a George M.Ll Davies gyda Chymdeithas Cymry Glanau Mersi o’r 22ain i’r 24ain o Hydref.

Adelphi - Lerpwl

Erith a Siwan

Yn ogystal a chael amser i ymweld â’r dociau o le hwyliodd y Mimosa; y Cavern lle y darganfu’r Beatles; i siopa; i werthfawrogi pensaerniaeth adeiladau Lerpwl ac i gymdeithasu, cynhaliom gyngerdd a mynychom wasanaeth Y Gair a’r Gân.
Arweiniwyd ein cyngerdd a gynhaliwyd yn Ysgoldy Bethel yn yr enwog Penny Lane gan Hywel Lloyd. Mwynhaodd aelodau niferus Cymdeithas Cymry Glanau Mersi eitemau canu’r côr, o dan arweiniad ein harweinyddes Rhian Dafydd, yn ogystal â sgets; darlleniad gan Elan; deuawd glocsio gan Siwan ac Eirith; unawdau a deuawd gan Gerallt ‘Perth’, Catrin Williams a Ffion Medi (pob lwc iddi yn ei chwrs yn y coleg yn Lerpwl) ac eitem offerynnol gan Siwan ar y ffliwt, Eirith ar y ffidil a Heledd ar y piano newydd a gafodd ei brofi i’r eithaf!
Hywel Lloyd
Gerallt
Ar y bore Sul, dychwelsom i Penny Lane i fynychu’r gwasanaeth. Cawsom ein tywys gan Mr John P. Lyons, Mr Humphrey Wyn Jones, y Parchedig Ddr D. Ben Rees ac aelodau eraill o bwyllgor Cymry Glanau Mersi mewn darlleniadau, anerchiad a gweddiau, a’n harwain mewn cymanfa fer gan ein harweinyddes Rhian Dafydd. Darparwyd lluniaeth ar ein cyfer gan wragedd y capel a diolchodd Rhian Jones ar ein rhan am eu croeso a’u hynawsedd.
Wedi penwythnos hwylus, daeth y Parchedig Ddr D. Ben Rees i ffarwelio â ni yn yr Adelphi gan obeithio ein gweld yn dychwelyd i Lerpwl i gyfrannu at ddathliadau Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008.Sgets
Sgets
Ffion Elan Catrin a Ffion