|
|

|
Côr Cardi-Gân yn lansio
gwefan
www.corcardi-gan.com
(Cliciwch ar y llun i weld mwy)
|

|
|
Ar Nos Wener, 20 Medi 2002
cynhaliwyd noson gymdeithasol yn neuadd bentref Dihewyd i ddathlu
lansiad gwefan newydd Côr Cardi- Gân, sef : www.corcardi-gan.com. |
|

|
Fel mae nifer o'r darllenwyr
yn gwybod bellach, Côr Cymysg i ieuenctid o ddeunaw oed i fyny yw
Côr Cardi-Gân, sy'n denu aelodau ar draws y sir gyfan, ac roedd y
noson hon yn noson arloesol a hanesyddol ym mywyd y côr.
Penderfynwyd ar gynnal y noson yn neuadd Dihewyd am fod y neuadd wedi ei
hadnewyddu yn ddiweddar at ddefnydd y gymuned ac am fod 4 o aelodau'r côr
yn dod o'r ardal hynny. Mae'r neuadd hefyd o fewn tafliad carreg i gartref
y côr, sef Theatr FelinFach. |
|
Roedd mynediad i'r lansiad
drwy wahoddiad yn unig, ac ymhlith y gwahoddedigion roedd cynrychiolwyr
o nifer o fudiadau ieuenctid Ceredigion, megis Gwasanaeth Ieuenctid
y Sir. Mudiad y Ffermwyr Ifanc, Urdd Gobaith Cymru, Theatr FelinFach,
Undeb Amaethwyr Cymru, Ffatri Fenter Menter a Busnes yn ogystal â Chynghorwyr
y sir a chynrychiolwyr o Gynghorau Cymuned y sir.
Bu'n noson lwyddiannus a hwylus dros ben gydag Euros Lewis yn arwain a
llywio'r noson yn ei ffordd unigryw ei hunan. Roedd Euros yn un o'r bobl
allweddol a fu ynghlwm â sefydlu'r côr dair blynedd yn ôl ac mae wedi ei
weld yn tyfu ac yn ffynnu. Cafwyd nifer o amrywiol eitemau yn ystod y nos
gan gynnwys eitemau gan y côr a dawnsio gwerin a chlocsio gan Aelwyd Hafodwenog.
Cafwyd cyflwyniad o'r wefan gan y cynllunydd a'r gwefeistr, sef Graham
Jones sydd hefyd yn digwydd bod yn aelod o'r côr! |

|
|

|
Mae'r côr yn cynnal llawer
o gyngherddau o fewn yr ardal a thu hwnt ac rydym hefyd yn codi arian
at achosion da. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf penderfynwyd cefnogi
'Ty Hafan' sef yr unig hosbis i blant yng
Nghymru sydd wedi ei lleoli yn Sili ym Mro Morgannwg, ac fel rhan o'r noson
cyflwynwyd siec o dros £370 gan Gadeirydd y Côr, Bryan Davies i Swyddog Datblygu'r
elusen yn y Canolbarth, sef Phil Thomas. |
| Mae'r côr ei hunan yn falch
iawn o dderbyn unrhyw gymorth ariannol tuag at amrywiol adnoddau
megis gwisg swyddogol, ffolderi ac yn y blaen ac rydym wedi bod yn
ffodus iawn i ddenu noddwyr cefnogol yn y gorffennol. Roedd hi'n
fraint gennym felly i dderbyn siec hael iawn gan Rhian Thomas, un
o Swyddogion Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion am £500
tuag at y gost o brynu piano trydan, symudol. Derbyniwyd siec yn
ogystal gan Ffatri Fenter Menter a Busnes tuag at y gost o gynnal
y noson. |

|
|

|
Yn dilyn yr eitemau cerddorol
cafwyd lluniaeth ysgafn a blasus iawn wedi ei baratoi gan Euronwy
Williams, Dihewyd a'i thîm o weithwyr diwyd. Diolch hefyd i Rowland
Evans, Tafarn Dyffryn Aeron am ddarparu'r bar yn ystod y noson.
Yn sicr, bu'r lansiad yn noson gofiadwy iawn yn hanes y côr ac yn gyfle i
ni wneud cysylltiadau newydd â phobl a mudiadau eraill yng Ngheredigion. |
|

|

|

|
| |
|
|
|