cartref.jpg (3548 bytes)
dyddiadur.jpg (3946 bytes)
cefndir.jpg (3655 bytes)
ar daith.jpg (3712 bytes)

ymholiadau.jpg (4293 bytes)

english.jpg (3629 bytes)

 

ar_daith_teitl.jpg (6485 bytes)

Taith Côr Cardi-Gân ac Aelwyd Hafodwenog i'r Wyl Ban Geltaidd, Kilkenny 2002.

Yn hwyr nos Iau, Ebrill 4ydd roedd rhyw ddeugain o bobl ifanc yn aros mewn amryw o dafarndai ar draws Ceredigion a Sir Gâr yn disgwyl am fws i'w cludo i borthladd Doc Penfro ar gyfer y cam cyntaf o'u taith i Kilkenny yn Iwerddon ar gyfer yr Wyl Ban Geltaidd. Aelodau o Gôr Cardi-Gân ac Aelwyd Hafodwenog oeddynt, a oedd am deithio i Kilkenny i gystadlu yn un o'r cystadlaethau corawl yn ogystal â'r gystadleuaeth Ddawnsio Gwerin.

Mvc-101f.jpg (14473 bytes)

Hwyliodd y llong o Ddoc Penfro am 3.15y.b. am fordaith a fyddai'n parhau am ryw 4 awr. Gan fod rhan fwyaf o'r teithwyr heb gysgu am 20 awr, fe aeth rhai i chwilio am le i orffwys eu pennau a'u llygaid, ond fe aeth rhan fwyaf o'r teithwyr yn syth i'r bar am ddiod neu ddau !! Erbyn diwedd y fordaith roedd y rhan fwyaf o'r aelodau yn dechrau cyfarwyddo gyda defnyddio yr Euro. Profiad newydd i lawer ar y daith.

Mvc-111f.jpg (21227 bytes)

Roedd y fordaith yn gyfle gwych i aelodau`r ddau fudiad ddod i adnabod ei gilydd yn well, ac o fewn dim o amser, daethpwyd I'r casgliad fod criw Hafodwenog a Chardi-Gân yn debyg iawn o ran diddordebau a phersonoliaethau, ac roedd pethau`n argoeli i fod yn benwythnos da iawn wrth chwarae gemau yfed gyda'n gilydd!
Wedi cyrraedd Rosslare am tua 7.00 yb, cychwynnodd y bws ar ei daith tuag at Kilkenny gan aros yn Waterford am frecwast cyn cyrraedd Gwesty'r Springhill Court, Kilkenny am 10.30 o'r gloch. Roedd y gwesty yn safonol a chyfforddus iawn a'r staff yn gyfeillgar iawn. Roedd yr ystafelloedd yn gyfforddus hefyd, er cyn lleied y gwelwyd ohonynt!
Yn ystod y prynhawn cyntaf aeth llawer i'w gwelyau i gysgu tra aeth eraill i chwilota ychydig i dref Kilkenny. "Sut dre oedd Kilkenny?" holodd un. "Wel oedd tafarndai braf 'da nhw!!" atebodd y lleill. Mae'n debyg aeth y criw ddim pellach na rhyw dafarn gan fod Gerallt a Bleddyn yn ddigon hapus gyda safon y Guinness yno! Gwelodd rhai o'r aelodau 'Parêd' y gwledydd Celtaidd drwy'r dre, ond er mawr siom, 'doedd dim llawer o ymwybyddiaeth o fewn y dre am yr Wyl.
Mvc-004f.jpg (24376 bytes)
Ymgasglodd y criw am bump, ar ôl cael cawod oer i ddeffro. Rhaid oedd cael ymarfer ar gyfer cyngerdd "Noson y Cymry" ar nos Wener. Roedd ystafell fawr y gwesty dan ei sang ar gyfer y cyngerdd, lle roedd llu o artistiaid o Gymru yn barod i berfformio. Roedd llawer o gorau, artistiaid a dawnswyr yn diddanu yn ystod y noson, a chyn hir daeth tro'r Côr. Canwyd Dal Fi, un o ganeuon Robat Arwyn ac Eryr Pengwern, un o ffefrynnau'r Côr gyda Rhian Dafydd yn canu'r unawd. Cafwyd cymeradwyaeth fyddarol gan y gynulleidfa, yn enwedig ar ôl Eryr Pengwern. Ni oedd yr unig Gôr o bobl ifanc a welsom yn yr Wyl. 

llun 8.jpg (28427 bytes)

Wedi'r perfformiad, ymddeolodd pawb yn ôl i'r bar, ac ar ôl darganfod piano yn y gornel, buom yn canu tan oriau mân y bore, ac yn mwynhau dawnsio Hywel ac Afan i'r clasur "YMCA".
Syndod oedd darganfod ar fore Sadwrn fod rhan fwyaf o'r criw wedi llwyddo i godi am frecwast, cyn ymgynnull am ymarfer ar gyfer cystadleuaeth y prynhawn. Daeth y gystadleuaeth yn gyflym iawn. Cystadleuaeth y Corau Gwledig oedd ein cystadleuaeth ni. Roedd pump o gorau yn y gystadleuaeth, gan gynnwys tri o Gymru, ond ar ddiwedd y dydd ein côr ni oedd ar y brig, gan ennill "wompyn" o gwpan a siec fach neis hefyd o 260Euro.
Yn hwyrach y diwrnod hwnnw roedd hi'n bryd i Aelwyd Hafodwenog gystadlu yn y Gystadleuaeth Dawnsio Gwerin. Erbyn diwedd y gystadleuaeth roedd dathliad dwbl gyda ni wrth i Hafodwenog ddod yn drydydd yn eu cystadleuaeth hwy. Nawr roedd y dathlu yn dechrau o ddifri', a noson hwyr arall o ddawnsio, canu, yfed a dathlu.
llun 66.jpg (21454 bytes)
I gloi'r penwythnos, cafwyd cinio blasus gyda'n gilydd mewn gwesty yn Kilkenny er mwyn gwario ein enillion. Erbyn diwedd y prynhawn, rhaid oedd teithio yn ôl i Rosslare er mwyn cael dychwelyd i Gymru. Ar y cwch bu Anwen, Brei a Catrin yn brysur yn paratoi seremoni wobrwyo gyda gwobrwyon tebyg i, Yfwr y Penwythnos, Canwr y Penwythnos, a llawer o wobrau digri eraill, ac i gloi'r seremoni adroddodd Brei benillion a gyfansoddodd i goffau'r penwythnos. 

llun 77.jpg (17621 bytes)

Diolch iddyn nhw ac i bawb ar y daith am wneud y penwythnos yn un bythgofiadwy. Rwy'n siwr y bydd yn rhaid dychwelyd y flwyddyn nesaf eto i roi cynnig ar gadw'r cwpan!

>> Mwy o luniau