|
|
Cymerodd y côr ran yng ngweithgareddau Gwyl y Cobiau Cymreig ddydd Sul,
10 Awst, ar Gae Sgwâr Aberaeron. Cawsom ddiwrnod bendigedig yn canu ynghanol
y ceffylau, a bu Eirith a Siwan yn clocsio ar lwyfan ynghanol y cae. Roedd
y clocsio’n adleisio swn trotian y ceffylau a bwrlwm y dyrfa o ymwelwyr
a ddaeth i fwynhau’r diwrnod. Yn dilyn y canu daeth rhyw syched mawr,
a chymerodd nifer o aelodau’r côr fantais o’r cyfle i gymdeithasu â rhai
o gymeriadau’r sioe. Diwrnod yn wir i’w gofio!! Ailgychwynnodd blwyddyn y côr nos Fercher, 3 Medi pan ddaeth nifer o
aelodau hen a newydd ynghyd. Swyddogion y côr am eleni, a etholwyd mewn
cyfarfod blynyddol yn ôl ym mis Mehefin, yw’r canlynol :-
Medi 26ain - Roedd y côr wedi cael gwahoddiad i ganu yng Ngwesty’r Grannell gan Ysgol Gynradd Llanwnnen. Cawsom noson hwylus yng nghwmni croesawgar y gynulleidfa. Perfformiwyd nifer o eitemau amrywiol gan yr aelodau, gyda Hywel ac Elan yn arwain y noson yn raenus. Cafwyd unawdau gan Carys, Catrin a Gerallt; darlleniad gan Elan; dawns stepio gan Eirith a chân actol gan fois y côr. Yr uchafbwynt i ni fel côr oedd trosglwyddo siec o bum cant o bunnoedd i Mr. Alun Davies a ddaeth i’w derbyn ar ran yr Ambiwlans Awyr. Nod y côr bob blwyddyn yw dewis elusen i’w chefnogi, ac yna mynd o amgylch tafarnau Ceredigion adeg y Nadolig yn Canu Carolau er mwyn codi arian ar ei chyfer. Yr elusen a ddewiswyd ar gyfer eleni yw D.A.S.H. Hydref 11eg - Trefnwyd bws i gludo’r côr i fynd i noswaith o ganu yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron. Roedd y noson yn cynnwys eitemau gan Fand y Ddafad Gorniog, Dom Duff o Lydaw a Saioa Etseberria o Wlad y Basg. Cawsom noson hwylus yn rhannu traddodiadau Celtaidd, gydag Elen Evans Ward o Drawscoed yn arwain y noson. Cyn troi am adre, gwelsom ddawn nifer o aelodau’r côr yn dawnsio gwerin! Hydref 17eg - Cafodd y côr noswaith bleserus yn rhannu llwyfan ag un o sêr canu pop mwyaf amlwg Cymru, sef Heather Jones, yng Ngwesty Llanina, Llanarth. Hydref 31ain - Bu’r côr yn perfformio yn Theatr Felinfach mewn cyngerdd a drefnwyd gan y Gymdeithas Cobiau a Merlod Cymreig. Roedd cynulleidfa deilwng iawn yno i fwynhau rhaglen amrywiol o eitemau gan y côr. Buom yn rhannu llwyfan â’r Tri Tenor, a bu’n noson lwyddiannus dros ben. Tachwedd 9fed - Daeth y côr ynghyd i ganu mewn Gwasanaeth Sul y Cofio yn Neuadd Penrhiwllan, Llandysul. Anwen Davies fu’n arwain y noson yn gampus gyda Catrin, Gerallt a Rhydian yn perfformio eitemau unigol drwy ganu ac adrodd. Cawsom luniaeth bendigedig ar ôl y Gwasanaeth, a diolchwyd i’r gwragedd am eu croeso gan Elan Dafis. Rhagfyr 10fed - Aeth nifer o’r aelodau i ganu carolau yn siop Tesco Aberteifi. Bwriad y gweithgaredd oedd dechrau codi arian at ein helusen am eleni sef D.A.S.H. Rhagfyr 19eg - Cawsom noson arbennig yn teithio o amgylch tafarnau cefn gwlad Ceredigion yn canu carolau at ein helusen. Hywel fu’n trefnu’r daith ddirgel hon, a chafodd pawb lawer o hwyl a chroeso arbennig ymhob “stop”. Ar ôl yr holl ganu ymhob man roedd syched mawr! Ionawr 22ain–24ain – Aeth tua ugain o aelodau’r côr i dreulio penwythnos yn ninas hyfryd Caerfaddon. Pan mae’r côr yn mynd am benwythnos i rywle fel arfer, mae’n canu mewn cyngerdd neu wyl. Y tro hwn, fodd bynnag, y nod oedd ymlacio’n llwyr a mwynhau ein hunain. Cawsom amser wrth ein bodd mewn gwesty moethus, cyfleus a chyfle bendigedig i gymdeithasu. Cafwyd amser i siopa, ymweld ag atyniadau’r ddinas a blasu peth o fwyd a chwrw’r lle hefyd. Diolch yn fawr i Elan, Hywel a Catrin am drefnu penwythnos gwych. Ar ran y côr, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb a’ch atgoffa i gyd bod croeso arbennig i unrhyw aelod newydd ymuno â ni am 8pm ar nos Fercher yn y Gwndwn, ger Theatr Felinfach. |